Mae Cwmni Cyfreithwyr Llys Cennen (Tracy Phillips & Evans gynt) yn gwmni sydd wedi’i sefydlu ers tro byd, gan gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau cyfreithiol yn y gymuned er 1927. Lleolir y Practis yn Rhydaman. Agorodd swyddfa yn Llandeilo yn 2011 ynghyd â swyddfa yng Nghaerfyrddin yn 2013.
Gall ein Cyfreithwyr cymwys gynnig gwasanaethau a chymorth cyfreithiol o’r radd flaenaf yn ddwyieithog ynghylch materion cyfreithiol amrywiol iawn gan gynnwys trawsgludo, gwasanaethau amaethyddol, cyfraith teulu a materion plant, ewyllysiau a phrofiant, ffurflenni Atwrneiaeth Arhosol, adennill dyledion, anghydfodau ynghylch tir a ffiniau a materion troseddol. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfryngu ar gyfer teuluoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rydym wedi ymrwymo i wasanaethu ein cleientiaid yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt drwy gynnig gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar.
Why Llys Cennen?
-
Proffesiynol
Gall Llys Cennen gynnig gwasanaeth proffesiynol ac effeithlon – gyda chyngor cychwynnol AM DDIM a dim costau cudd.
Meet The Team
-
Mae Hefin yn ymdrin â materion ymgyfreitha gan gynnwys anghydfodau ynghylch ffiniau, ymddiriedolaethau tir, adennill dyledion a phrofiant dadleuol. Mae hefyd yn ymdrin ag ewyllysiau a phrofiant ynghyd â ffurflenni atwrneiaeth arhosol.
Hefin Rees
Partner

Mae Hywel yn Gyfreithiwr ar Ddyletswydd. Ef yw Pennaeth yr Adran Troseddol (Cynrychiolydd Masnachfraint LSC) a hefyd Bennaeth yr Adran Trawsgludo (Uwch Swyddog Cyfrifol y Cynllun Trawsgludo o Safon).
Hywel Davies

Mae Susan yn aelod o Uwch Banel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Gyfraith, Panel Plant Cymdeithas y Gyfraith a hefyd Banel Cyfryngu Teuluoedd Cymdeithas y Gyfraith. Mae hefyd yn aelod o Resolution ac yn gyfryngwr cydnabyddedig. Mae Susan hefyd yn cynrychioli plant mewn rhai achosion llys.
Susan Howell

Mae Paul yn arbenigo ym mhob agwedd ar eiddo preswyl, rhydd-ddaliadau a lesddaliadau, adeiladau, cartrefi newydd, trosglwyddo ecwiti ac ailforgeisi a thir heb ei gofrestru.
Paul Smith
Cyfreithiwr

Julie Williams
Cyfreithiwr
Mae Julie’n arbenigo mewn trawsgludo domestig a masnachol, Ewyllysiau ac Atwrneiaeth.
-
Cwblhaodd Sarah Radd yn y Gyfraith a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna aeth ymlaen i gwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn 2005.
Sarah Williams

Cymhwysodd Kristina fel Cydymaith o’r Sefydliad Siartredig ar gyfer Gweithredwyr Cyfreithiol ym mis Ebrill 2012. Mae’n arbenigo ym maes Profiant.
Kristina Thornber
Gweithredwr Cyfreithiol