Cafodd Hefin ei eni a’i fagu yng Ngharmel ac mae bellach yn byw ger Llandeilo. Ar ôl mynychu Ysgol Gyfun Tre-gib aeth i Brifysgol Cymru, Aberystwyth gan ennill Gradd yn y Gyfraith cyn cwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yng Ngholeg y Gyfraith Caer. Ymunodd Hefin â’r Practis ym 1998 a daeth yn bartner yn 2004.
Mae Hefin yn briod ac mae ganddo ddau o blant ifanc. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, ac yn arbennig rygbi a chriced.
Mae Hefin yn ymdrin â materion ymgyfreitha gan gynnwys anghydfodau ynghylch ffiniau, ymddiriedolaethau tir, adennill dyledion a phrofiant gynhennus. Mae Hefin hefyd yn ymdrin ag ewyllysiau a phrofiant ac â ffurflenni pŵer twrnai parhaus. Gall Hefin siarad Cymraeg yn rhugl a gall ymdrin â materion drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Hefin yn Aelod o’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Gynhennus ac Arbenigwyr Profiant.
Mae Hefin yn cael ei gynorthwyo gan Mrs Ria Burton ria@llyscennen.co.uk
Yn ein swyddfa yn Rhydaman mae Hefin gan fwyaf ond mae hefyd yn gweithio yn ein swyddfa yn Llandeilo ar fore Llun, Mawrth a Gwener a hefyd ar brynhawn Mercher.
Gall Hefin gyfarfod â chleientiaid yn ein swyddfa yn Llandeilo a’n swyddfa yng Nghaerfyrddin ar adegau eraill, drwy drefniant ymlaen llaw.