Cwblhaodd Sarah Radd yn y Gyfraith a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna aeth ymlaen i gwblhau Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn 2005. Enillodd gontract hyfforddi â chwmni stryd fawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan gymhwyso fel Cyfreithiwr yn 2008. Arhosodd â’r cwmni hwnnw cyn ymuno â Chyfreithwyr Llys Cennen ar ddechrau 2017.
Mae Sarah yn ymdrin â phob agwedd ar drawsgludo preswyl ac mae’n cynorthwyo Hywel Davies yn ein swyddfa yn Rhydaman.