Mae Susan yn gyfreithiwr â’r practis ac mae’n arbenigo mewn cyfraith teulu a materion plant. Cafodd Susan ei magu yn ardal Rhydaman a dychwelodd i fyw i’r ardal ar ôl ennill ei chymhwysterau cyfreithiol.
Mae Susan yn aelod o Uwch Banel Cyfraith Teulu Cymdeithas y Gyfraith, Panel Plant Cymdeithas y Gyfraith a hefyd Banel Cyfryngu Teuluol Cymdeithas y Gyfraith. Mae hefyd yn aelod o Resolution ac mae’n gyfryngwr cydnabyddedig. Mae Susan hefyd yn cynrychioli plant mewn rhai achosion llys.
Mae Susan yn briod ac mae ganddi bedwar o blant. Mae’n gefnogwr brwd o dîm rygbi Cymru. Ymysg ei diddordebau mae pobi a rhedeg a chwblhaodd Hanner Marathon Caerdydd yn ddiweddar er mwyn codi arian ar gyfer elusen.
Mae Susan yn cael ei chynorthwyo gan Mrs Rosemary Jones rosemary@llyscennen.co.uk
Mae Susan yn gweithio yn ein swyddfa yn Rhydaman gan fwyaf ond mae hefyd yn gweithio yn ein swyddfa yng Nghaerfyrddin ar fore Mercher a bore Iau.
Gall Susan gwrdd â chleientiaid yn ein swyddfa yn Llandeilo a’n swyddfa yng Nghaerfyrddin ar adegau eraill, drwy drefniant ymlaen llaw.