Cwestiwn rhyfedd i’w ofyn i ffermwyr o bosibl, pwy sy’n berchen ar eu fferm? Gallwn gymryd yn ganiataol y byddant yn gwybod? Neu i’w ofyn i berchenogion busnes, pwy sy’n berchen ar eu swyddfa neu ffatri?

 

Gall bod yn berchen ar eiddo fod yn ddigon cymhleth os nad oes busnes ynghlwm wrth y cyswllt rhwng ymddiriedolaethau â pherchenogaeth a hefyd oherwydd y gwahaniaethau rhwng teitlau cyfreithiol, llesiannol ac ecwitïol; ond mae busnesau’n ychwanegu haen arall o gymhlethdod.

 

Mae hyn yn arbennig o wir o safbwynt partneriaethau. Hyd yn oed os nad oes gennych ddogfen ysgrifenedig o’r enw “Gweithred Bartneriaeth” efallai eich bod yn ffermio neu’n rhedeg eich busnes mewn partneriaeth. Gall Deddf Partneriaeth 1890 ymhlygu ffurf benodedig ar gytundeb partneriaeth lle y mae ymddygiad dau neu fwy o bobl yn golygu bod y meini prawf yn cael eu bodloni.  Efallai fod eich anghenion yn wahanol i’r rhai y mae Deddf Seneddol 127 o flynyddoedd oed yn darparu ar eu cyfer, fodd bynnag. Agwedd ganolog ar hyn yw rhannu elw neu golledion o fusnes a gynhelir ar y cyd. Os ydych yn dod yn rhan o fusnes ac yn rhoi arian i mewn iddo neu’n derbyn difidend efallai eich bod mewn partneriaeth. Os felly, mae trefnu Gweithred Bartneriaeth sy’n pennu’r sefyllfa yn glir yn syniad da.

 

Treth Etifeddiant

 

Gall perchenogaeth asedau masnachu’r busnes gael effaith sylweddol ar drethiant a chyfradd, os o gwbl, y Rhyddhad Eiddo Busnes at ddibenion y Dreth Etifeddiant.

 

Meddyliwch am redeg busnes o gartref, a yw’n breswylfa (a allai elwa ar fand cyfradd sero ychwanegol o safbwynt y dreth etifeddiant) neu’n eiddo busnes (a allai elwa ar Ryddhad Eiddo Busnes)? Gallai’r atebion wneud gwahaniaeth mawr i’r Gyfradd Sero o Dreth Etifeddiant a fyddai ar gael, a faint o ryddhad os o gwbl sydd ar gael.

 

Rhaid ystyried hefyd a yw eiddo busnes yn cael ei ddefnyddio gan Bartneriaeth neu a yw’r Bartneriaeth yn berchen arno? Mae hyn mor bwysig oherwydd bod asedau sy’n eiddo i Bartneriaeth sy’n gymwys am Ryddhad Eiddo Busnes yn ei gael ar gyfradd o 100%, tra bo asedau cymwys sy’n cael eu defnyddio’n ei gael ar gyfradd o 50%.

 

Wrth i ffermwyr arallgyfeirio mae perygl na fydd rhannau o’u hasedau bellach yn gymwys am Ryddhad Eiddo Amaethyddol ac o bosibl Ryddhad Eiddo Busnes (sy’n destun erthygl arall!) ac efallai y bydd angen sicrhau mwy o Ryddhad Eiddo Busnes am y gyfran honno o’r asedau ffermio sydd uwchlaw’r gwerth amaethyddol y mae’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol yn gymwys iddo. O’r herwydd mae sicrhau posibilrwydd Rhyddhad Eiddo Busnes (a’r gyfradd gymwys) hefyd yn gwneud synnwyr ar ffermydd.

 

Asedau Partneriaeth

 

Pwy felly sy’n penderfynu a all partneriaeth ddefnyddio tir ar ôl eich marwolaeth neu a yw’n berchen arno?

 

Y ffordd orau o gadarnhau hyn yw darllen y Cytundeb Partneriaeth. Os nad oes cytundeb partneriaeth ysgrifenedig yn bodoli (neu os nad yw’n crybwyll y mater, neu os oes tir neu eiddo wedi’i brynu ar ôl i’r cytundeb gael ei greu ac nad yw’r cytundeb wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu hynny) caiff yr holl amgylchiadau eu hystyried gan gynnwys:

 

    • Sut y cafodd yr eiddo ei gaffael a sut y cafodd hynny ei gyllido?
    • Beth oedd diben y caffael?
    • Sut yr ymdriniwyd â’r ased yn dilyn hynny?

 

Nid yw enwau “yn masnachu fel” ar lyfr siec a chofnod “tir rhydd-ddaliad” ar ryw werth hanesyddol yng nghyfrifon y bartneriaeth yn ddigonol os nad oes unrhyw dystiolaeth arall ar gael. Os nad yw’r amgylchiadau eraill yn cadarnhau hyn neu’n waeth byth os ydynt yn gwrth-ddweud hyn efallai y bydd gofyn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu’r Llysoedd ddatrys y mater. Bydd hyn yn gostus iawn. O’r herwydd mae’n bwysig sicrhau bod gennych Weithred Bartneriaeth ac mae hefyd yn bwysig parhau i’w diweddaru os byddwch yn gwerthu neu’n prynu eiddo busnes a phan fyddwch yn ysgrifennu eich Ewyllys..