Mae pob ystad yn wahanol o safbwynt pa mor gymhleth ydyw a’i werth ac o’r herwydd mae hi’n anodd iawn rhoi union ddyfynbris o ran y costau. Gall costau ystad amrywio o £500 + TAW i hyd at £10,000 + TAW, gan ddibynnu ar werth yr ystad a nifer y banciau neu’r cymdeithasau adeiladu neu’r cyfranddaliadau sydd ynghlwm wrthi.
Fel rheol bydd ystad arferol yn cynnwys y canlynol;
- Ewyllys ddilys
- Dim mwy nag un eiddo
- Dim mwy na phedwar neu bump cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- Dim asedau anniriaethol fel patentau neu hawlfreintiau
- Dim mwy na phedwar neu bump o fuddiolwyr
- Dim anghydfodau rhwng y buddiolwyr o safbwynt rhannu’r asedau. Os bydd anghydfod gallai hyn arwain at gostau uwch
- Dim Treth Etifeddiaeth i’w thalu ac nid oes angen i’r ysgutorion gyflwyno cyfrif llawn i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (nid oes ond angen llenwi Ffurflen Dreth fer gyda’r Gofrestr Brofiant)
- Dim hawliadau yn erbyn yr ystad
Gydag ystad o’r fath byddwn yn disgwyl treulio rhwng 5 ac 20 awr yn gweithio arni a byddwn yn codi ein cyfradd yr awr o £220 + TAW. Yn ogystal â’n tâl amser byddwn hefyd yn cytuno ar elfen werth a gaiff ei chyfrifo ar sail gwerth yr ystad. Bydd gan amlaf yn cyfateb i rhwng hanner ac un y cant o werth yr ystad. Bydd ein ffioedd fel rheol yn cyfateb i rhwng 1% a 2% o werth yr ystad + TAW ac alldaliadau.
Bydd yr union gostau yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol. Er enghraifft, os oes un buddiolwr a dim eiddo bydd y costau yn is o’i gymharu ag ystad sydd ag eiddo, nifer o fuddiolwyr a sawl cyfrif banc.
Yn ogystal â’n ffioedd caiff alldaliadau eu codi wrth i ystad gael ei gweinyddu. Costau yw alldaliadau sy’n gysylltiedig â’ch mater ac sy’n daladwy i drydydd partïon fel ffi’r Gofrestr Brofiant. Byddwn yn ymdrin â thalu’r alldaliadau ar eich rhan er mwyn sicrhau proses symlach.
Mae’r alldaliadau arferol yn cynnwys;
- Ffi cyflwyno cais am Brofiant o £155 ynghyd â 50c yn ychwanegol fesul copi o’r Grant Profiant (mae’n werth cael o leiaf dri neu bedwar copi fel arfer, neu fwy os yw’r ystad yn gymhleth)
- Chwiliadau gan Adran Pridiannau Tir yn achos methdaliaeth yn unig o £2 y person
- Polisïau indemniad ynghylch colli tystysgrifau cyfranddaliadau (yn dibynnu ar werth y cyfranddaliadau)
- Cost Hysbysiad o dan y Ddeddf Ymddiriedolwr yn y London Gazette er mwyn gwarchod rhag hawliadau annisgwyl (caiff y ffi ei chadarnhau ar y pryd)
- Cost Hysbysiad o dan y Ddeddf Ymddiriedolwr yn y papur lleol er mwyn gwarchod rhag hawliadau annisgwyl (caiff y ffi ei chadarnhau ar y pryd)
Costau Ychwanegol Posibl
- Os nad oes ewyllys neu os yw’r ystad yn cynnwys unrhyw gyfranddaliadau (stociau a bondiau) mae’n debygol y bydd costau ychwanegol a allai amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar yr ystad a sut y bwriedir ymdrin â hi. Gallwn roi dyfynbris mwy penodol pan fydd gennym ragor o wybodaeth am yr ystad.
- Bydd cost gwerthu a throsglwyddo unrhyw eiddo yn ychwanegol
Faint o amser y bydd y gwaith yn ei gymryd?
Ar gyfartaledd caiff y gwaith o weinyddu ystadau fel y rhai a ddisgrifir uchod ei gwblhau o fewn tri i chwe mis. Gall gymryd rhwng pedair a deg wythnos i dderbyn Grant. Unwaith y bydd Grant gallwn ddosbarthu’r asedau, sy’n cymryd rhwng wythnos a phythefnos fel arfer. Os bydd angen llenwi Ffurflen Dreth lawn, fodd bynnag, ac os bydd angen talu Treth Etifeddiaeth gall y broses fod lawer yn hirach.
Canllaw yw’r wybodaeth yr ydym yn ei darparu er mwyn rhoi rhyw syniad i chi o’r costau sydd ynghlwm wrth weinyddu ystad. Gan fod pob ystad yn wahanol ni allwn warantu y bydd ein dyfynbrisiau cychwynnol yn gwbl gywir er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod mor gywir â phosibl. O’r herwydd gofynnwn i chi gysylltu â’n swyddfeydd er mwyn trefnu cyfarfod â ni fel y gallwn drafod y mater yn fanwl. Ni fydd unrhyw reidrwydd arnoch i’n defnyddio ar ôl y cyfarfod hwn.